[% INCLUDE 'header.html' title=loc('FixMyStreet Conditions of Use') sidebar='about/_sidebar.html' %]
FixMyStreet Conditions of Use
Mae torri unrhyw un o'r rheolau isod yn debygol o arwain yn uniongyrchol at atal eich
cyfrif fel na fyddwch bellach yn gallu gwneud adroddiadau neu ddiweddariadau ar
FixMyStreet. Mewn rhai achosion, gall torri'r rheolau hyn arwain at gamau cyfreithiol
yn cael eu cymryd yn eich erbyn gan yr awdurdodau neu unigolyn sy’n cwyno. Os gwelwch
yn dda byddwch yn ymwybodol y gallai FixMyStreet fod yn ofynnol yn gyfreithiol - mewn
amgylchiadau eithriadol - i ddatgelu eich gwybodaeth gofrestru a/neu eich cyfeiriad IP i'r
awdurdodau.
Os gwelwch yn dda, sicrhewch bod eich adroddiadau a diweddariadau yn berthnasol, chwaethus
a sifil:
- Dim sylwadau enllibus. Sylw enllibus yw un sydd
yn gallu niweidio enw da person neu sefydliad. Os cewch chi eich erlyn yn llwyddiannus,
gallech fod yn atebol am iawndal a chostau sylweddol.
- Peidiwch ag amharu ar bobl eraill yn eich adroddiadau. Ni ddylai Fix My Street
cael ei ddefnyddio ar gyfer adroddiadau sy'n amharu ar berson; ni ddylech nodi unrhyw un fel
drwgweithredwr gydag enw, disgrifiad neu gyfeiriad. Ni ddylid defnyddio FixMyStreet i hysbysu
ymddygiad gwrthgymdeithasol, creulondeb i anifeiliaid, troseddau parcio, gweithgaredd troseddol
ac ati - yn aml, fe welwch chi fod gan eich cyngor linell teleffon ar gyfer y rheiny, neu efallai y bydd
yn well cysylltu'n uniongyrchol â'r heddlu.
- Peidiwch â phostio negeseuon sy’n aflonyddu, anghyfreithlon,
enllibus, sarhaus, bygythiol, niweidiol, anweddus, cableddus, gogwyddo'n rhywiol,
homoffobig neu’n hiliol.
- Peidiwch â dynwared pobl eraill. Gall adroddiadau neu sylwadau a
bwriadwyd i edrych fel pe baen nhw'n gan rywun arall eich gadael yn agored i gyfraith
difwyno
- Peidiwch ddefnyddio'r wefan fel lle i wyntyllu cwynion personol am
bobl neu sefydliadau eraill.
- Dim rhegi. Mae pobl o bob oedran yn darllen ac yn cyfrannu at
FixMyStreet. Peidiwch â defnyddio rhegfeydd na geiriau eraill a all tramgwyddo.
- Dim negeseuon sbam neu orlifo. Peidiwch ail-bostio'r un neges, neu
negeseuon tebyg iawn, fwy nag unwaith.
- Byddwch yn ymwybodol bod adroddiadau a diweddariadau FixMyStreet yn cael eu
harddangos yn gyhoeddus ar y wefan. Am y rheswm hwn, peidiwch â chynnwys
manylion personol fel eich cyfeiriad chi ( neu rywun arall) neu rif ffôn
yn eich adroddiad cychwynnol - gellir darparu y rhain pan mae’r cyngor yn cysylltu
gyda chi. Mae hyn er eich diogelwch eich hun a diogelwch pawb sy'n defnyddio’r gwasanaeth.
Gellir gwneud pob adroddiad a diweddariad yn ddienw trwy ddadwneud y bocs
'Dangos fy enw'n gyhoeddus'.
- Siaradwch â phobl eraill ar-lein gyda'r un fath o warineb ag
oddi-ar-lein. Mae FixMyStreet yn caniatáu gwneud sylwadau dienw ond
ni ddylid byth ddefnyddio anhysbysrwydd fel gorchudd ar gyfer sylwadau amhriodol
neu ddifrïol.
[% INCLUDE 'footer.html' %]