[% INCLUDE 'header.html', title = 'Cwestiynau a ofynnir yn aml', sidebar='about/_sidebar.html' %]

cwestiynau a ofynnir yn aml i FixMyStreet

Beth yw FixMyStreet?

Ai gwefan cyngor yw hwn?

Na, nid gwefan cyngor yw hwn – ond mae FixMyStreet yn anfon eich adroddiadau yn uniongyrchol at eich cyngor lleol.

Rydym hefyd yn eu cyhoeddi ar-lein, fel y gall eraill yn y gymuned ddarllen, trafod, a chynnig cyngor lle bo'r angen.

Felly pwy ydych chi? A pham ydych chi'n gwneud hyn?

Gwefan annibynnol yw FixMyStreet, a adeiladwyd gan yr elusen mySociety. Roedden ni eisiau gwneud hi'n haws i adrodd problemau yn eich cymuned, hyd yn oed os nad ydych chi'n gwybod at bwy y dylai'r adroddiadau hynny cael eu danfon.

Felly adeiladon ni FixMyStreet. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw teipio cod post – neu adael i'n safle eich lleoli yn awtomatig – a disgrifio y broblem. Yna, rydym ni’n danfon eich adroddiad at y bobl sydd yn gallu ei trwsio yn rhinwedd eu swydd.

Mae FixMyStreet yn gweithredu dros gyfan Y Deyrnas Gyfunol gyfan. Dim ots lle ydych chi, yr beth sy'n rhaid i chi ei gofio yw ein cyfeiriad gwe – FixMyStreet.com.

A yw cynghorau'n darllen neu'n gweithredu ar adroddiadau FixMyStreet?

Yn sicr maen nhw'n gwneud. Mae adroddiadau a anfonwyd trwy FixMyStreet yn cyrraedd yr un mewnflwch ag adroddiadau sy’n cael eu danfon mewn unrhyw fodd arall.

Mae cynghorau hynod ddeallus yn integreiddio yn uniongyrchol, fel ein bod yn gallu darparu manylion yn uniongyrchol i'w systemau, sy’n arbed amser ac arian iddyn nhw.

Sut gallaf i gysylltu gyda chi?

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon – ond os gwelwch yn dda sicrhewch a oes yna Cwestiwn Cyffredin sy'n ateb eich ymholiad yn gyntaf, oherwydd mae hynny'n arbed eich amser chi a ni

Oes yna ap FixMyStreet?

Oes mae yna ap ar gyfer iOS ac ap Android .

Os nad yw eich ffôn yn gymwys i'r ap, rhowch gynnig ar FixMyStreet trwy borwr eich ffôn symudol – dylai weithio'n dda.

Defnyddio FixMyStreet

Sut ydw i’n creu adroddiad?
  1. Ewch i’r hafan a nodwch côd post neu enw lle. Ddim yn siŵr ble ydych chi? Dewiswch 'defnyddiwch fy lleoliad'.
  2. Rhowch y pin ar y map i ddangos ble yn union mae'r broblem, a nodwch ddisgrifiad o'r mater cyn danfon.
  3. Gwiriwch eich mewnflwch e-bost am ein e-bost i gadarnhau, cliciwch ar y ddolen, a dyna ni.
Beth alla i adrodd?

Yn bennaf, mae FixMyStreet ar gyfer adrodd pethau sydd wedi torri, yn fudr, wedi'u difrodi neu eu gadael, ac mae angen eu trwsio, glanhau neu glirio; fel graffiti, baw cŵn, tyllau yn y ffordd neu oleuadau stryd sydd ddim yn gweithio.

Beth na ddylen i adrodd?

Gweler einRheolau’r Safle ar gyfer pethau na ddylech chi adrodd, na chynnwys yn eich adroddiad.

Materion brys: Am broblemau a allai achosi perygl uniongyrchol i bobl; megis gollyngiadau nwy neu goed yn cwympo, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu'r cwmni cyfleustodau priodol, neu'r gwasanaeth brys yn uniongyrchol – ar eich ffôn os yn bosibl.

Rydym yn aml yn danfon problemau at adrannau gwasanaethau glanhau neu gynnal a chadw priffyrdd, felly gall defnyddio FixMyStreet ar gyfer materion brys arwain at oedi eich adroddiad rhag cyrraedd yr adran gywir.

Pethau nad sy’n gorfforol: Ar gyfer materion fel llygredd sŵn, cyfarth cŵn, tanau, biniau olwyn coll neu gasgliadau sbwriel wedi eu methu, cynigion ar gyfer bympiau cyflymder neu groesfannau i gerddwyr, neu gwyno am y yr Awdurdod Lleol ei hun, cysylltwch â'r cyngor yn uniongyrchol.

Ydy’r adroddiadau yn gyhoeddus?

Ydyn maen nhw: pan fyddwch chi'n cyflwyno eich adroddiad, rydym yn ei anfon i'r awdurdod lleol, ac rydym yn ei gyhoeddi ar y wefan hefyd. Bydd eich cyngor yn ymateb yn uniongyrchol i chi, ac o hynny ymlaen, mae eich gohebiaeth yn un i un.

Am y rheswm yna, awgrymwn nad ydych yn cynnwys manylion personol fel cyfeiriadau a rhifau ffôn nes eich bod yn cyfathrebu’n uniongyrchol.

Pam bod yr adroddiadau'n gyhoeddus?

Mae gan adrodd ar-lein sawl budd. Gall eraill weld yn gyflym beth sydd eisoes wedi ei adrodd, felly mae'n atal y cyngor rhag gorfod gweithio ar ddyblygiadau.

Mae hefyd yn creu darlun o gymunedau lleol, fel ei bod hi'n hawdd gweld beth yw'r problemau cyffredin mewn ardal benodol, a pha mor gyflym maen nhw'n cael eu trwsio. Gall trigolion lleol bori, darllen a rhoi sylwadau ar broblemau - ac efallai cynnig datrysiad hyd yn oed.

Pam bod rhaid i mi rannu fy enw a fy nghyfeiriad e-bost?

Am nifer o resymau: yn gyntaf, mae angen eich cyfeiriad e-bost arnom fel bod yr awdurdod lleol yn gallu cysylltu gyda chi.

Hefyd, mae negeseuon sy'n cael eu danfon trwy FixMyStreet yn mynd i systemau'r Awdurdod lleol. Gan amlaf, mae eich enw llawn yn faes gorfodol, ac mae'n bosib y bydd eich adroddiad yn cael ei wrthod hebddo.

Yn olaf, pan fydd gofyn i ddefnyddwyr ddarparu manylion cyswllt, mae tôn eu gohebiaeth yn tueddu i fod yn fwy adeiladol ac yn llai sarhaus.

Nid ydym yn cyhoeddi eich cyfeiriad e-bost, a gallwch ddewis cyflwyno eich adroddiad yn ddienw trwy addasu’r blwch “dangos fy enw'n gyhoeddus” cyn cyflwyno. Bydd hyn yn golygu nad yw eich enw'n cael ei arddangos ar wefan FixMyStreet, er y bydd yn cael ei rannu gyda'r awdurdod lleol.

Os ydych chi am newid adroddiad a wnaethoch yn y gorffennol, i fod yn ddienw, mewngofnodwch i'ch cyfrif (gweler isod am sut i gofrestru) ac fe welwch opsiwn 'Cuddio'ch enw?' ar yr adroddiad.

Cyfrifon a hysbysiadau

Oes angen i mi gofrestru gyda FixMyStreet i'w ddefnyddio?

Nac oes – gallwch ddanfon adroddiad heb gofrestru. Pan fyddwch chi’n cyflwyno eich adroddiad, byddwn yn danfon e-bost atoch gyda dolen gadarnhau.

Petaech chi’n defnyddio FixMyStreet yn gyson, gallwch osgoi'r cam hwn drwy greu cyfrif. Ar ôl i chi gofrestru, bydd eich adroddiadau'n cael eu danfon cyn gynted ag y byddwch yn clicio 'cyflwyno'.

Byddwch chi hefyd yn gallu gweld yr holl adroddiadau blaenorol rydych chi wedi'u danfon ar un dudalen.

Sut ydw i’n cofrestru?

Cyrchwchhttps://www.fixmystreet.com/auth a dewiswch ‘Na, gadewch imi gofrestru trwy e-bost’. Gallwch chi ddewis cyfrinair bryd hynny.

Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair

Peidiwch poeni! Cyrchwchhttps://www.fixmystreet.com/auth/forgot gan ddarparu eich e-bost a chyfrinair newydd. Byddwch chi’n derbyn e-bost i gadarnhau’r newid.

Rydw i eisiau newid fy nghyfrinair neu gyfeiriad e-bost

Gallwch wneud hyn ar dudalen eich cyfrif .

Beth yw hysbysiad?

Mae FixMyStreet yn caniatáu i chi gofrestru er mwyn derbyn e-bost bob tro y mae rhywun yn adrodd problem yn ardal o’ch dewis – ewch i https://www.fixmystreet.com/alert i weld beth sydd ar gael. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn.

Dydw i ddim eisiau derbyn hysbysiadau mwyach

Mae yna ddolen dad-danysgrifio ar ddiwedd pob e-bost i’ch hysbysu – cliciwch ar hyn a byddwch yn cael eich dad-danysgrifio'n syth.

Pan mae pethau’n mynd o chwith

Nid yw’r gwefan yn gweithio

Yn gyntaf, sicrhewch eich cysylltiad â’r we. Efallai hoffech chi hefyd edrych ar ein ffrwd trydar, ble ry ni’n cyhoeddi unrhyw faterion neu seibiadau sy’n hysbys.

Os nad oes problemau gyda'ch cysylltiad chi neu ni, arhoswch ychydig funudau, ac yna ceisiwch eto.

Pe bai eich trafferthion yn parhau, cysylltwch â ni.

Cofiwch gynnwys geiriad unrhyw neges gwall sy'n arddangos, pa borwr yr ydych yn ei ddefnyddio (ee Internet Explorer, Firefox, Safari), p'un a ydych chi'n ar gyfrifiadur desg neu ffôn symudol, ac unrhyw beth arall a allai fod yn berthnasol.

Nid yw FixMyStreet yn cydnabod fy nghôd post

Daw ein data cod post o'r Arolwg Ordnans. Os oes gennych chi côd post gymharol newydd, efallai na fydd wedi’i arddangos ar yr Arolwg Ordnans eto, nac felly ar FixMyStreet.

Er hynny, gallwch barhau i ddefnyddio'r safle: enwch stryd neu leoliad sy’n agos i chi, neu gadewch i’r wefan dod o hyd i’ch lleoliad yn awtomatig. Gallwch ddefnyddio’r teclynnau yn nghornel uchaf y sgrin ar y dde er mwyn i symud a chanolbwyntio ar eich union leoliad.

Nid yw eich stryd ar ein map

Gan amlaf, mae mapiau FixMyStreet o'r Arolwg Ordnans, felly bydd diweddariadau i'n mapiau yn digwydd pan fydd yr Arolwg Ordnans yn adnewyddu eu data eu hunain.

Efallai yr hoffech chi drio fersiwn OpenStreetMap o FixMyStreet, https://osm.fixmystreet.com/ – sydd â'r un nodweddion yn union, ond sy'n arddangos mapiau OSM.

Pe bai dod o hyd i’r stryd rydych chi am ei nodi yn parhau i fod yn broblem, disgrifiwch leoliad y problem mewn cymaint o fanylder â phosib, gan gynnwys ei nodi ar y map.

Fe fydd Arolwg Ordnans yn derbyn ceisiadau i newid eu mapiau: cysylltwch gyda customerservices@ordnancesurvey.co.uk neu Ordnance Survey, Adanac Drive, Southampton, SO16 0AS neu ffoniwch 03456 05 05 05.

Mae yna ormod o piniau ar y map, nid ydw i’n gallu creu adroddiad

Defnyddiwch y botwm “cuddiwch piniau” yng nghornel uchaf neu isaf y ochr dde y sgrin i glirio’r map, neu'r hidlyddion gwladol/categori lle ar gael.

Does dim categori ar gyfer yr hyn rydw i am adrodd

Mae'r categorïau ar FixMyStreet yn cael eu gosod gan bob cyngor unigol, ac yn arddangos y problemau y maen nhw'n ymdrin â nhw.

Ceir bron bob amser opsiwn 'arall', ond os nad yw eich problem yn gweddu unrhyw un o'r categorïau penodol, ystyriwch a yw FixMyStreet yn y lle priodol i adrodd (gweler "Beth alla i adrodd?", uchod).

Dydw i ddim wedi derbyn e-bost i gadarnhau

Gwiriwch eich ffolder spam - dyma'r rheswm mwyaf cyffredin nad oes modd dod o hyd i e-byst cadarnhau.

Yn anffodus, mae'n anodd i ni ei osgoi hyn o'n pen ni, ond drwy ein hychwanegu at eich rhestr gyfeiriadau e-bost “da”, byddwch yn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.

Fe anfonoch chi fy adroddiad i'r lle anghywir

Os gwelwch yn dda, gwiriwch eich bod wedi gosod eich pin yn gywir, a dewis y categori cywir ar gyfer eich adroddiad. Os yw eich problem yn agos iawn at ffin cyngor arall, mae'n hawdd gosod y pin ar yr ochr anghywir ar gam. Yn yr un modd, gall dewis y categori anghywir olygu bod eich adroddiad yn cael ei anfon at un cyngor pan ddylai fod wedi mynd i un arall.

Ar hyn o bryd, tra bod FixMyStreet yn anfon adroddiadau i’r Priffyrdd Cenedlaethol, nid yw'n anfon adroddiadau i Traffic Scotland na Thraffig Cymru sy'n cynnal a chadw cefnffyrdd.

Os nad yw’r ddau paragraff uchod yn ateb eich ymholiad, os gwelwch yn dda cysylltwch a byddwn yn ceisio mynd at wraidd pam fod eich adroddiad wedi’i anfon at y lle anghywir. Cofiwch gynnwys URL (cyfeiriad gwe) eich adroddiad FixMyStreet.

Rydw i am ddiweddaru fy adroddiad

Pe baech eisoes wedi cyflwyno eich adroddiad, ond nawr mae angen i chi anfon gwybodaeth bellach at eich cyngor, dylech chi aros nes eu bod yn ymateb i chi ac yna ymateb i'w cyfathrebu'n uniongyrchol.

Gallwch hefyd ddiweddaru eich adroddiad FixMyStreet, ond nodwch nad yw'r diweddariadau'n cael eu hanfon ymlaen at y cyngor. Mae'r dudalen wedi'i bwriadu fel lle i drigolion drafod problemau lleol a chynnig cyngor neu gymorth.

Gyda hyn mewn cof, efallai y byddwch yn dymuno diweddaru eich adroddiad ar y safle yn ogystal â chysylltu gyda'ch cyngor dros e-bost.

Rydw i am olygu fy adroddiad
Dydi hi ddim yn bosib golygu adroddiad unwaith iddo gael ei anfon at y cyngor. Fodd bynnag, os oes gennych reswm da am olygu'r testun sydd ar y wefan (e.e rydych wedi cynnwys eich rif ffôn trwy gamgymeriad, neu roeddech chi'n bwriadu creu adroddiad yn ddienw) cysylltwch â ni yna gallwn ni yn ei olygu i chi.

Cofiwch gynnwys URL (cyfeiriad gwe) eich adroddiad FixMyStreet pan fyddwch chi'n cysylltu â ni.

Sylwer nad yw golygiadau ar y safle yn cael eu hanfon i'r cyngor, felly os yw eich golygiad yn hanfodol i drwsio’r problem, yna ymatebwch i'ch cyngor pan fyddant yn ateb i'ch adroddiad cychwynnol.

Ni allwn newid safle pin ar ôl iddo gael ei osod.

Nid wyf am adrodd yn gyhoeddus

Mae'r holl adroddiadau a wnaed trwy FixMyStreet yn cael eu cyhoeddi ar-lein. Gall adroddiadau cael eu cyflwyno'n ddienw dim ond i chi wirio'r blwch priodol pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflen. Bydd eich adroddiad ymddangos ar wefan FixMyStreet, ond heb eich enw, ac y bydd eich enw yn cael ei anfon i'r cyngor.

Pe bai eich adroddiad yn cynnwys deunydd a allai fod yn sensitif, fel enwau neu gyfeiriadau, awgrymwn nad ydych yn cynnwys y rhain nes i'r cyngor ateb i chi'n uniongyrchol ac rydych chi mewn cyswllt un-i-un.

Os nad yw eich adroddiad yn addas i'w gyhoeddi, dylech gysylltu â'ch cyngor yn uniongyrchol, drwy'r manylion cyswllt a roddir ar eu gwefan.

Rydw i wedi gweld adroddiad/sylw amhriodol

Mae botwm 'Cwyno am gamddefnydd' ar waelod pob adroddiad FixMyStreet. Cliciwch ar hyn a byddwn yn taro sylw at y cwyn cyn gynted ag y gallwn.

Os yw'r adroddiad neu'r sylw yn mynd yn groes i'n Rheolau, byddwn yn ei ddileu.

Beth nesa?

Nid yw fy mhroblem wedi ei thrwsio, beth ydw i'n ei wneud nawr?

Mae FixMyStreet yn wych ar gyfer adrodd problemau, ond dydy ni ddim yn eu trwsio - eich cyngor sy’n goruchwylio hynny.

Os hoffech chi cwrso eich cyngor, ceisiwch ateb eu gohebiaeth diweddaraf – neu os mai dim ond ymateb awtomatig sydd gennych, efallai y gallwch chi ddod o hyd i fanylion cyswllt pellach yno.

Os nad yw hynny’n gweithio, awgrymwn ddechrau adroddiad newydd FixMyStreet. Gallwch chi hefyd ddefnyddio gwefan mySociety ddefnyddiol arall, WriteToThem, er mwyn cysylltu â'ch cynghorwyr lleol a gofyn iddyn nhw am gymorth.

Mae rhywun wedi nodi bod fy mhroblem wedi'i thrwsio ond nid yw hynny’n wir

Fel perchennog eich adroddiad ar FixMyStreet, gallwch newid ei statws yn ôl i 'heb ei thrwsio' ar unrhyw adeg. Ewch i dudalen we eich adroddiad a gwiriwch y blwch o dan 'diweddariad'.

Mae fy adroddiad yn hen ac mae fy mhroblem wedi'i thrwsio. Gaf i ei ddileu?

Ar hyn o bryd mae gennym bolisi o gadw holl adroddiadau FixMyStreet: credwn maent yn cyfrannu darlun hanesyddol defnyddiol o gymunedau ar draws y wlad. Maen nhw hyd yn oed wedi cael eu defnyddio mewn ymchwil academaidd, i astudio, er enghraifft, beth yw problemau cyffredin ardal, neu sut y dosberthir tyllau ffordd ledled y wlad.

Wrth i adroddiadau newydd gael eu creu, bydd y rhai hŷn yn ymddangos islaw y dudalen gyntaf ar gyfer yr ardal penodol, ac yn llai tebygol o gael eu darganfod gan bobl sy'n ymweld â'r safle.

Ar gyfer cynghorau

Ble rydych chi'n anfon adroddiadau FixMyStreet?

Dewch i gyswllt, a byddwn yn anfon rhestr atoch o'r categorïau sydd gennym ar gyfer eich cyngor, a'r cyfeiriadau e-bost sydd gennym ar gyfer pob un ohonynt.

Rydym yn hapus i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen. Gallwn hefyd ychwanegu neu dynnu categorïau os dymunwch chi.

Sut rydyn ni'n ymateb i adroddiad FixMyStreet?

Mae adroddiadau fel arfer yn cyrraedd FixMyStreet trwy e-bost. Pe baech yn ateb yr e-bost yn eich modd arferol, bydd eich ymateb yn mynd yn uniongyrchol at mewnflwch y defnyddiwr.

Ni chyhoeddir eich ateb ar wefan FixMyStreet (oni bai eich bod yn cwsmer FixMyStreet Pro sydd wedi dewis yr opsiwn hwn – edrychwch ar 'A all FixMyStreet gysylltu'n uniongyrchol â systemau'r cyngor?', isod).

Mae gan ein cyngor ei system adrodd ei hun eisoes - nid oes angen i ni hefyd fod ar FixMyStreet

Mae FixMyStreet wedi'i ddylunio i weithio ar y cyd ag adnoddau cyngor. Dydyn ni ddim yn bwriadu eu disodli, a chredwn fod yna le i'r ddwy system.

Dylai eich trigolion allu gwneud adroddiadau lle bynnag y byddan nhw'n dewis. Mae'n ddigon posib y bydd hynny’n digwydd ar wefan y cyngor. Hefyd, gall ddigwydd drwy Twitter, Facebook, neu FixMyStreet.

Mae'n well gan lawer o drigolion FixMyStreet oherwydd mae'n hawdd dod o hyd iddo - dydyn nhw ddim yn gorfod llywio drwy wefan cyngor. Does dim rhaid iddyn nhw wybod chwaith pa wefan y cyngor y dylen nhw fod yn edrych arno. Ac rydym wedi gwneud FixMyStreet mor hawdd i'w ddefnyddio â phosibl.

Nid yw FixMyStreet yn cynnwys yr holl ddata sydd angen arnom yn ei adroddiadau

Os gwelwch yn dda cysylltwch a rhowch wybod i ni beth sydd ar goll.

Mae FixMyStreet yn cynnwys y wybodaeth ganlynol yn ei adroddiadau fel mater o drefn:

Ydy FixMyStreet yn gallu cysylltu'n uniongyrchol â systemau'r cyngor?

Ydy – a byddwn yn gwneud hynny yn rhad ac am ddim, os ydych chi'n glynu at y safon Open311. Darganfyddwch fwy fan hyn.

Mae FixMyStreet yn well na'n system adrodd ni

Yna beth am ddefnyddio FixMyStreet? Rydym bellach yn cynnig datrysiad llawn adrodd namau awdurdodau lleol, sy’n integreiddio â'ch gwefan chi.

Gallwch elwa o holl fanteision ffocws FixMyStreet ar y defnyddwyr, ac mae'n opsiwn cadarn, economaidd, sy'n bodoli ar gwmwl.

Darllen astudiaethau achos yma.

Adborth a syniadau

Mae FixMyStreet wir yn gweithio

Rydyn ni'n falch o wybod hynny! Mae hi bob amser yn galonogol gwybod bod ein safle yn gweithio i bobl.

Pe baech am ddangos eich gwerthfawrogiad, beth am cynnig rhodd i’n cefnogi? Neu, os na allwch chi sbario unrhyw beth dim ond ar hyn o bryd, gallwch chi gefnogi trwy sôn amdanom; dwedwch wrth eich ffrindiau, ysgrifennwch at y papur newydd lleol, rhowch neges i fyny yn eich llyfrgell. Mae pob dim yn helpu.

Hoffwn i greu FixMyStreet ar gyfer fy ngwlad neu dref fy hun

Mae FixMyStreet yn rhedeg ar gôd ffynhonnell agored, felly mae hynny'n iawn. Darllenwch fwy fan hyn.

Hoffwn awgrymu welliant

Cysylltwch gyda ni, neu agorwch docyn ar GitHub (rhaid cofrestru). Rydym yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau ac yn gweithredu ar y rhai fwyaf call a phoblogaidd.

Mae gen i syniad am safle

Rydyn ni'n falch i wybod hynny – er, sylwch fod ein rhiant-sefydliad, mySociety, yn tueddu i gynllunio ei flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol rhagweladwy ac mae'n felly annhebygol y byddwn yn gallwn ni weithio ar eich syniad chi ei adeiladu.

Mae’r côd mae FixMyStreet yn defnydddio yn agored, felly mae croeso i chi arbrofi.

Os nad oes gennych sgiliau technegol, beth am bostio'ch syniad ar rhestr ebost mySociety ? Mae'n llawn o bobl sy’n frwd am y fath yma o beth, ac os gwnewch chi dal sylw rhywun, efallai buasant yn hapus i gydweithio.

[% INCLUDE 'footer.html' %]